28.10.04

Gogledd neu gogledd?

Cafwyd rant ar maes-e ynghylch y defnydd o North a South ar gyfer y de a gogledd o'r wlad.

Dyma gyfraniad gan Geraint Løvgreen sydd yn awgrymu mai cerdd Ifor ap Glyn sydd wedi crynhoi'r peth orau

"Fydd colofnwyr papur newydd ddim yn cael
parhau â'r arfer o sillafu
Gogledd a De Cymru hefo G a D fawr
megis Gogledd a De Corea neu Fietnam
achos nid y 49th parallel
na'r DMZ sy'n ein gwahanu
ond lôn sâl
pobl sy'n dweud 'sietin'
a defaid teircoes Bannau Brycheiniog..."

("Rantio dros Ryddid" - Ifor ap Glyn)

No comments: